Newyddion

01.07.20:

Disodli cerflun Picton gyda chofeb i Louisa Calderon, oedd yn ddioddefwr yn blentyn - Grŵp ieuenctid du

Louisa Calderon tortured on the orders of Sir Thomas Picton

(Credit: National Library of Wales)

Mae llythyr agored i Arweinydd Cyngor Caerdydd, a drefnwyd gan bobl ifanc ar Banel Cynghori Is-Sahara (SSAP) ac a lofnodwyd gan ddinasyddion Caerdydd, yn galw ar gerflun Syr Thomas Picton i gael ei ddisodli gan gofeb i’w ddioddefwr enwocaf - Louisa Calderon.

Mae dros 80 o ddinasyddion Caerdydd wedi cydlofnodi llythyr agored - a drefnwyd gan Ieuenctid SSAP - i Arweinydd Cyngor Caerdydd yn galw ar gerflun Syr Thomas Picton i gael ei ddisodli gan gofeb i’w ddioddefwr enwocaf - Louisa Calderon, oedd yn 14 oed.

Roedd rheolaeth Picton o Trinidad yn awdurdodaidd a chiaidd ac arweiniodd hyn at achos yn ei erbyn ym 1806 yn ei gyhuddo o arteithio Calderon yn farnwrol. Roedd Calderon yn ferch mylato, oedd wedi ei chyhuddo o fod yn gysylltiedig â dwyn arian oddi wrth Pedro Ruiz, dyn busnes o Port of Spain, yr oedd mam Louisa wedi trefnu iddi fyw gydag ef fel ‘meistres’ yn 11 oed.

Methwyd cael cyfaddefiad trwy ei holi, felly rhoddodd Picton y gorchymyn i ‘Arteithio Louisa Calderon’. Ni chyfaddefodd Calderon a chafodd ei charcharu am 8 mis arall cyn cael ei rhyddhau.  Cyfaddefodd Picton orchymyn yr arteithio a chafwyd ef yn euog gan reithgor yn Lloegr.  Ni chafodd byth ei ddedfrydu fodd bynnag, ac ym 1808, cafwyd ef yn ddieuog.

Dywed y llythyr:

Wrth i gerfluniau masnachwyr caethwaesion barhau i gael eu tynnu i lawr ar draws y byd, mae’n anochel yn cyflwyno’r cwestiwn beth ddylid ei wneud â’r plinthau gwag y mae’r cerfluniau hyn yn eu gadael ar ôl a sut dylid mynd i’r afael â’u hanes. Mae’r rhain yn gwestiynau y dylai’r cymunedau lle mae’r cerfluniau hyn wedi bod yn sefyll eu hateb. Yn wir, yn achos cerflun Picton, dylai trigolion Caerdydd gael llais.”

Dywedodd Takura Aldridge, Ieuenctid SSAP:

“Rydym yn gofyn am gymorth arweinwyr nad oes ofn arnynt wynebu’r gorffennol er mwyn symud ymlaen. Ond fel pobl ifanc “BAME”, nid oes ofn arnom wneud hyn ar ein pen ein hunain, er y byddai’n well pe byddai’r cyngor a sefydliadau eraill yn ymuno â ni.”

Dywedodd Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr SSAP:

"Mae mudiad #MaeBywydauDuOBwys yng Nghymru wedi gweld llawer o bobl ifanc yn codi i gondemnio a mynd i’r afael ag anghyfiawnderau hanesyddol a hiliol.  Nid yw Ieuenctid SSAP yn wahanol.  Mae angen i ni sicrhau bod y naratif yn cael ei newid i adlewyrchu mwy o gydbwysedd wrth ddweud ein hanes.

“Mae stori Louisa Calderon a’i chamdriniwr, Thomas Picton, yn rhan o hanes Cymru. Mae ei stori’n cynrychioli cannoedd ar filoedd mwy.  Mae angen dweud eu stori."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae’r llythyr llawn ar gael yma.

Ieuenctid SSAP:

Panel Cynghori Is-Sahara:

Am gyfweliadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa
petergilbey@hybcymruafrica.org.uk

5.05.20

Datganiad ar gydsoddiad DFID a'r FCO

Daw’r newyddion bod yr Adran Datblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn bwriadu uno ar adeg ddinistriol i bobl dlotaf y byd.  

Nawr yw’r amser i’r DU gynyddu ei hymdrechion i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf y mae’r byd yn eu hwynebu heddiw; yn cynnwys newid hinsawdd, tlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae COVID-19 wedi bod yn ddinistriol i bobl ar draws y byd.  I lawer o bobl dlotaf y byd, roedd y problemau oedd yn bodoli cyn y pandemig byd-eang yn ymddangos yn anorchfygol, a nawr, wrth i lawer o wledydd wynebu’r clefyd, bydd anghydraddoldebau enfawr yn dod yn fwy di-syfl byth.  

Mae’n anodd credu, ar adeg pan mae degawdau o gynnydd o dan fygythiad yn sgîl COVID-19, bod y Prif Weinidog wedi penderfynu diddymu DFID – arweinydd byd yn y frwydr yn erbyn tlodi. 

Nawr yw’r amser i gynyddu ein huchelgais i weithio’n fyd-eang a DFID yw’r offeryn gorau ar gyfer gwneud hyn.

Nododd 2020 ddechrau degawd o gyflawni, lle’r oedd camau byd-eang yn cael eu cymryd i sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.  Mae DFID yn esiampl o dryloywder ac effeithiolrwydd, gydag enw da yn rhyngwladol fyddai’n gallu arwain y gwaith hwn.

Gallai’r uniad hwn erydu ‘Prydain Fyd-eang’. Ni all diplomyddiaeth gymryd lle cymorth.  Ni ellir rhoi blaenoriaeth i wledydd incwm canolig fel Tsieina neu India dros wledydd incwm is fel Ethiopia neu Somalia. Ni eir i’r afael â materion byd-eang os byddwn yn canolbwyntio ar fuddiannau cenedlaethol y DU yn unig.

Nid ydym yn ddiogel rhag y materion sy’n effeithio ar gymunedau gweddill y byd, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn barod ac yn meddu ar yr adnoddau ar gyfer gweithredu’n fyd-eang.  

Rachel Cable a Claire O’Shea 

(Cyd-gadeiryddion Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru)



5.05.20

Daw gwaredigaeth yn sgîl COVID-19 trwy feddwl a gweithio’n fyd-eang - Sector Datblygu Rhyngwladol Cymru

Wrth i gymunedau ar draws y wlad gefnogi ei gilydd wrth wynebu COVID-19, mae’r corff sydd yn cynrychioli’r sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru wedi galw am gefnogi ein cymuned fyd-eang hefyd.

Nid yw Grŵp Asiantaeth Tramor Cymru (WOAG), cynghrair cynrychioliadol o’r sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru, yn ddiogel rhag heriau COVID-19. Mae brys y sefyllfa ddomestig yn amlwg, ond rydym wedi gweld y gorau o ddynoliaeth, wrth i gymunedau lleol gefnogi ei gilydd i gynorthwyo’r bregus trwy’r cyfnod digynsail hwn.  Mae’n rhaid i ni gofio hefyd ein bod yn rhan o gymuned fyd-eang, yr ydym yn dibynnu arni am gymorth hanfodol fel bwyd a meddyginiaeth, yn yr un modd ag y mae eraill yn dibynnu ar ein cymorth ni.

Mae’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu yn debyg i’r heriau y mae sectorau eraill yn eu hwynebu.  Gweithlu llawer llai, anallu i recriwtio staff newydd a gweithgareddau codi arian sydd wedi dod i ben mwy neu lai.

Mae gwledydd sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel, fel Syria a Yemen, eisoes mewn sefyllfa ansicr heb bwysau ychwanegol pandemig; ni fydd eu systemau gofal iechyd bregus yn gallu ymdopi â COVID-19.

Roedd Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2020, a elwir hefyd yn COP26, i fod cael ei chynnal yn Glasgow, yr Alban, eleni.  Mae bellach wedi cael ei gohirio tan 2021, ac mae penderfyniadau pwysig a brys am ymdrin â’r argyfwng hinsawdd wedi cael eu gohirio hefyd.

Er gwaethaf cyfnod heriol, dygynsail, mae gan Gymru lawer i’w ddathlu.  Mae’r sector wedi gallu symud llawer o weithgaredd addysgol ar-lein gan sicrhau y gall myfyrwyr Cymru barhau gyda’u haddysg gydag adnoddau rhagorol 1.

Mae gweminarau wedi cael eu trefnu rhwng sefydliadau yn y Gwledydd Deheuol a Chymru i sicrhau rhannu dysgu a chymorth ar y ddwy ochr.

Mae rhwydweithiau rhyngwladol y sector trwy eglwysi, grwpiau masnach deg ac ysbytai, i gyd yn gweithio i ofalu am anghenion uniongyrchol y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt.  Mae’r sector yn gwneud hyn trwy ddatblygu a chefnogi ymgyrchoedd i ddileu dyled gwledydd datblygol sy’n cael eu dinistrio gan y pandemig hwn.

Dywedodd Claire O’Shea, Cyd-gadeirydd WOAG a phennaeth Hub Cymru Africa:

“Mae’r pandemig hwn yn dangos i ni pa mor fregus yr ydym i gyd i feirws nad yw’n gwahaniaethu. 

“Tra bod yr effeithiau yma yng Nghymru wedi bod yn ddeifiol, mae llawer o bobl yn y byd datblygol yn fwy bregus hyd yn oed. Nid oes gan y rhan fwyaf gyfleusterau golchi dwylo, mae amodau byw cyfyng yn golygu nad yw cadw pellter cymdeithasol yn opsiwn, ac mae’r bygythiadau a gyflwynir gan newyn yn fwy uniongyrchol na’r perygl o ddal COVID-19, felly eu dewis gorau yw parhau i weithio.  Mae’n rhaid i ni weithredu mewn undod gyda’n cymdogion byd-eang.  Bydd y feirws hwn yn dal yn risg cyhyd â bod gennym wledydd a systemau gofal iechyd bregus.”

Dywedodd Rachel Cable, Cyd-gadeirydd WOAG a phennaeth Oxfam Cymru:

“Ers degawdau, mae Oxfam wedi gweithio gyda phartneriaid yn ystod rhai o argyfyngau dyngarol gwaetha’r byd. 

“Rydym wedi darparu cyfleusterau dŵr a glanweithdra sydd yn achub bywydau er mwyn hybu arferion hylendid da fel golchi dwylo i fynd i’r afael â chlefydau fel colera a teiffoid, yn ogystal ag Ebola.

“Ni ddychmygwyd, yma yng Nghymru, y byddai golchi dwylo mor hanfodol.  Ond nid yw golchi dwylo’n unig yn ddigon. Mae Oxfam yn bryderus iawn am y ffordd y bydd y bobl dlotaf a mwyaf bregus yn cael eu taro gan COVID-19 - gartref ac ar draws y byd.

“Gallai effaith economaidd y pandemig wthio hanner biliwn o bobl i mewn i dlodi onid bai bod arweinwyr y byd yn cymryd camau brys. Mae’n rhaid i Gymru bellach gynyddu’r pwysau a dangos ei hymrwymiad i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

1 Mae’r Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor (CAFOD) wedi cyhoeddi adnoddau ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ac ysgol uwchradd. Ar gael yn: https://cafod.org.uk/Education/Education-resources 

1 Mae Maint Cymru wedi cyhoeddi gweithgareddau awyr agored, gweithgareddau ystafell ddosbarth, a mwy ar eu gwefan. Ar gael yn: https://sizeofwales.org.uk/education/education-resources/

Am gyfweliadau, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa
petergilbey@hybcymruafrica.org.uk

15.04.20: Masgiau i bawb - cyngor ar fesurau ataliol ar gyfer grwpiau sy'n gweithio yn Affrica yn ystod yr achosion o COVID-19

Copy of COVID19 (1).png

Yn ddiweddar, rydym i gyd wedi gorfod meddwl yn wahanol, gan wneud pob ymdrech i geisio dod o hyd i'r ffyrdd gorau o ddelio â'r pandemig sy'n datblygu'n gyflym, yn enwedig yn achos prosiectau dramor, yn ogystal â diogelwch ac iechyd y rhai sy'n gysylltiedig â phrosiectau datblygu rhyngwladol. Un o'r pynciau llosg yw: a yw masgiau wedi’i gwneud gartref yn effeithiol? Crynodeb yw hwn, ond mae tystiolaeth a chanllawiau’n newid yn ddyddiol.

Dyma Dr Kathrin Thomas, sy’n Feddyg Teulu, yn Feddyg Iechyd y Cyhoedd a Chadeirydd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru dros Affrica, yn ateb rhai o'ch cwestiynau mwyaf dwys am y defnydd o fasgiau.

Sut mae'r feirws yn lledaenu?

Mae COVID-19 yn feirws sy'n cael ei ledaenu drwy ddefnynnau o system anadliadol unigolyn sydd wedi'i heintio (ac o bosib erosolau yn ystod rhai prosesau meddygol). Mae defnynnau yn fwy ac yn drymach ac yn cwympo i'r ddaear yn gyflym; mae erosolau yn llai ac yn gallu hongian yn yr awyr a theithio ymhellach am fwy o amser. Gall feirws yn y defnynnau oroesi am hyd at 72 awr ar rai arwynebau caled. Mae pobl yn cael eu heintio drwy anadlu'r feirws mewn defnynnau neu drwy gyffwrdd â pherson neu arwyneb sydd wedi'i halogi â’r feirws mewn defnynnau ac yna cyffwrdd â'u ceg neu eu llygaid. O’r herwydd, mae'r rheiny sy'n gweithio ac yn byw mewn amgylcheddau sydd ddim yn caniatáu iddyn nhw gynnal pellter cymdeithasol (o leiaf dwy fetr) rhwng pobl, mewn mwy o berygl o gael eu heintio. Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy'n cynhyrchu defnynnau heintiedig symptomau, fel peswch, twymyn neu golli’r gallu i arogli a blasu. Nid oes unrhyw sicrwydd eto o ran faint o bobl a all fod yn heintus cyn iddynt arddangos symptomau, neu sydd byth yn cael symptomau (mae rhai astudiaethau o Tsieina a Singapore yn awgrymu y gallai’r ffigur fod rhwng 6.4% a 12.5% o'r rhai sy'n profi’n bositif am COVID-19).

Y ffyrdd gorau i atal lledaenu’r feirws

Ynysu pobl symptomatig, golchi dwylo'n aml, hylendid peswch ac osgoi cyffwrdd â'r geg a'r llygaid yw'r dulliau mwyaf effeithiol o bell ffordd o amddiffyn pobl.

Os oes gennych chi staff, gwirfoddolwyr neu bartneriaid sy'n dal i weithio mewn amgylcheddau sy'n cynyddu eu risg o ddal y feirws, efallai y byddwch yn ystyried argymell eu bod yn gwisgo masg er mwyn osgoi ei ddal. Serch hynny, mae diffyg tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd masgiau llawfeddygol, neu rai syml wedi’u gwneud gartref, yn erbyn trosglwyddo COVID-19, ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sydd ddim yn arddangos symptomau.

Masgiau llawfeddygol

Mae tystiolaeth y byddai pobl heintus â firysau eraill sy'n gwisgo masgiau llawfeddygol yn amddiffyn eraill. Yn ôl canllawiau gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a’r mwyafrif o wledydd, dylai’r rhai â symptomau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt wisgo masgiau, ond nid pobl iachi.  Adolygwyd y dystiolaeth hon gan WHO ar 6ed Ebrill, ac nid yw’r cyngor maent yn ei roi wedi newid. Pwysleisiwyd y dylid cadw masgiau llawfeddygol ar gyfer staff gofal a phobl symptomatig. Nid oes tystiolaeth ddigonol ynghylch effeithiolrwydd masgiau lliain i'r cyhoedd. Siaradodd Michael Ryan, Cyfarwyddwr Gweithredol Argyfyngau Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd, ar Ebrill 3ydd ynglŷn â defnyddio masgiau lliain ar gyfer y cyhoedd, ond rhybuddiodd mai prif yrrwr y clefyd hwn yw pobl heintiedig yn pesychu gan halogi arwynebau a phobl eraill. Dywedodd fod masgiau lliain yn gallu arwain at risg o bobl yn peidio â defnyddio’r mesurau atal profedig, fel golchi dwylo, ond cyfaddefodd yn gyndyn “efallai nad ydyn nhw’n syniad drwg mewn rhai amgylchiadau”.

Masgiau cartref

Felly beth ddylech chi ei argymell i'ch mudiad os bydd y pwnc o ddefnyddio masgiau er mwyn gallu parhau â'r gwaith yn codi? Yn ôl y dystiolaeth, mae risg y gallai masgiau greu ymdeimlad ffug o ddiogelwch, a allai roi pobl mewn mwy o berygl yn y pen draw. Hyd yn oed gyda'r geg a'r trwyn wedi'u gorchuddio'n llawn, gall y feirws fynd i mewn drwy'r llygaid o hyd. Gall masgiau wedi’u gwneud gartref annog pobl i fynd allan pan fyddant yn arddangos symptomau, yn y gred na fyddant yn heintio pobl eraill. Ychwanegwch at hynny'r ffaith y gall pobl fod yn llai gofalus o ran pellhau cymdeithasol, golchi dwylo a hylendid peswch os ydyn nhw'n gwisgo masg. Er mwyn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r nifer o bobl fydd yn marw, byddai angen i gyfran uchel iawn o'r boblogaeth wisgo masg, efallai cymaint â 80%. Os oes stigma’n perthyn i wisgo masg, gallai'r nifer sy'n gwneud hynny fod yn rhy isel i wneud llawer o wahaniaeth. 

Fodd bynnag, mae’r adolygiad cynhwysfawr cyntaf o fasgiau wyneb cymunedol yn benodol i'r pandemig COVID-19 cyfredol, a gyhoeddwyd heb adolygiad gan gymheiriaid ar 12fed Ebrill, yn gryf o blaid gwisgo masg lliain, gan nodi bod y buddion damcaniaethol yn gorbwyso unrhyw niwed damcaniaethol. Maent yn awgrymu y gallai gwisgo masg lliain leihau'r Ro (nifer y bobl sydd wedi'u heintio gan bob person heintiedig), gan felly leihau'r achosion dros amser (gweler diagram 1). Mae angen nifer uchel o bobl i gydymffurfio â hyn (dros 80% o'r boblogaeth), felly maent yn awgrymu y dylai gwisgo masg fod yn orfodol i gyflawni hyn ac i osgoi’r stigma mai dim ond pobl sâl sy'n gwisgo masg. Maent yn credu y bydd cyfuno hyn â negeseuon cyhoeddus cryf ar gynnal yr holl fesurau ataliol eraill, yn golygu bod unrhyw risg yn sgil esgeulustod yn annhebygol o ddadwneud y buddion cadarnhaol ar lefel y boblogaeth.

figure 1.png

Mae'r adolygiad yn nodi “I roi hyn mewn persbectif, mae 100 o achosion ar ddechrau mis yn dod yn 31,280 o achosion erbyn diwedd y mis (R0 = 2.4) o'i gymharu â dim ond 584 o achosion (R0 = 1.35). Mae arafu’r nifer o achosion fel hyn yn amddiffyn gallu’r system gofal iechyd i ymdopi, yn ogystal â golygu bod epidemig lleol yn agored i ymyriadau drwy olrhain cysylltiadau, a all ddileu'r ymlediad yn llwyr ”.

Felly, mae yna alw cyhoeddus cynyddol ar draws llawer o wledydd am i bawb wisgo masgiau cartref syml pan fyddant yn mynd allan. Mae “deddfau Masgiau i Bawb” bellach ar waith yn Israel, Awstria, y Weriniaeth Tsiec, Hong Kong, Mongolia ac mewn mannau eraill, gyda mwy o wledydd yn annog ymddygiad o’r fath. I ddechrau, nid oedd Canolfan Reoli Clefydau (CDC) yr Unol Daleithiau’n argymell masgiau i'r cyhoedd, ond yna dechreuwyd cymeradwyo masgiau lliain tua dechrau mis Ebrill. Mae tuedd debyg o blaid masgiau cartref yn tyfu yn Affrica, gyda galwadau gan rai cyfryngau yn Ne Affrica i annog y cyhoedd i ddefnyddio masgiau i amddiffyn eu hunain rhag cael eu heintio â COVID-19. Er bod y ddamcaniaeth hon yn ymddangos yn gredadwy, nid yw Swyddfa Affrica WHO, na CDC Affrica’n gefnogol iddi. Fodd bynnag, mewn sefyllfaoedd lle mae'n anodd iawn cynnal pellter cymdeithasol, golchi dwylo a chadw ar wahân, mae'r arferiad yn debygol o fynd yn fwy poblogaidd. Byddai'n anodd gwadu bywoliaeth i'r rhai sy'n gallu gwneud a gwerthu masgiau.

Yn ddelfrydol, bydd llawer o bobl yn cynnal ymchwil ymarferol ac yn dod o hyd i atebion a fyddai o gymorth i ni i gyd

Nodyn i'ch atgoffa o'r negeseuon pwysig ar gyfer eich mudiad yn ystod yr achos COVID-19:

  • Dylai unrhyw un sydd â symptomau ynysu eu hunain nes iddynt wella a pheidio â mynd allan, hyd yn oed gyda masg.
  • Os oes angen bwyd neu feddyginiaeth arnyn nhw, gofynnwch i rywun arall fynd i nôl y rhain, a gwisgwch fwgwd wrth eu derbyn.
  • Yr amddiffyniad gorau yw cynnal pellter corfforol, golchi dwylo, peidio â chyffwrdd yr wyneb a hylendid pheswch.
  • Nid yw masgiau yn amddiffyn y sawl sy’n eu gwisgo; mae’n bosibl y gallant amddiffyn eraill, dim ond os cânt eu defnyddio'n iawn ac yn ychwanegol at yr holl fesurau eraill.

Felly mae gan lywodraethau benderfyniad i’w wneud ynghylch a ddylid annog pawb i wisgo masg, hyd yn oed gwneud hyn yn orfodol. Yn y mwyafrif o wledydd Affrica Is-Sahara, mae’n bosib mai masg lliain yw'r unig opsiwn. Os yw’r wlad rydych chi’n bartner iddi’n dewis yr opsiwn hwn, fe allech chi annog gwneud a dosbarthu masgiau lliain.

 Sut i wneud masgiau cartref

Yma Dyma gyfarwyddiadau syml ar sut i wneud masg bandana mewn fideo 1 munud gan Dr Jerome Adams, Llawfeddyg Cyffredinol UDA. Ac Yma yw cyfarwyddiadau syml y CDC ar wnïo neu wneud masgiau lliain.Mae’r wefan hon Masks4All hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyfarwyddyd ar sut i wnïo masg lliain. Rhaid tynnu masgiau yn ofalus a'u golchi ar ôl cael eu tynnu i ffwrdd.

figure 2.png
figure 3.png

Mae angen gwirfoddolwyr - ydych chi'n chwilio am her newydd?

Volunteer CYM.png

Os ydych chi am ehangu eich sgiliau, defnyddio’r sgiliau sydd gennych chi eisoes er budd eraill, neu’n awyddus i bontio'r bwlch rhwng eich profiad a gyrfa mewn datblygu rhyngwladol, efallai y bydd gwirfoddoli gyda Hyb Cymru Affrica yn addas i chi.

Ar hyn o bryd rydym yn byw mewn cyfnod ansicr yn y DU ac yn fyd-eang, gyda lledaeniad Coronafeirws yn golygu bod llawer ohonom yn gweithio gartref, neu'n achosi ansicrwydd ynghylch swyddi a gyrfaoedd. Mae Hyb Cymru Affrica yn gweithio gyda llawer o fudiadau sy'n dal ati i gynllunio prosiectau sydd â’r nod o gysylltu Cymru ac Affrica gyda'i gilydd; mae’r rhain yn fudiadau a fyddai'n elwa o gymorth gan wirfoddolwyr.

Nid oes rhaid i chi wirfoddoli ar gyfer gwaith yn y swyddfa - yn wir, rydym wedi helpu pobl i weithio ar brosiectau gwirfoddoli o bell yn y gorffennol, ac yn y cyfnod ansicr hwn, gall gwirfoddoli'ch amser a'ch sgiliau eich helpu i ennill profiad gwerthfawr a allai fod o fudd i chi unwaith y bydd y sefyllfa o ran COVID19 dan reolaeth. Ac wrth gwrs, bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y mudiadau rydyn ni'n rhoi cymorth iddynt, sy'n cael effaith ar fywydau'r rhai sy'n byw yn Affrica.

Mae’n bosib fod gennych chi eisoes brofiad mewn maes penodol, fel codi arian neu gyfathrebu, a’ch bod am wirfoddoli rhywfaint o'ch amser yn helpu ein mudiadau partner i gyflawni eu potensial. Neu fe allech chi fod yn fyfyriwr neu'n geisiwr gwaith sy’n cychwyn o'r dechrau, ac yn awyddus i gael rhywfaint o waith datblygu rhyngwladol perthnasol i’w gynnwys ar eich CV. Beth bynnag yw lefel eich profiad, byddem yn hoffi clywed gennych.

Gallech ennill profiad yn y meysydd canlynol:

  • Ysgrifennu ceisiadau ar gyfer codi arian
  • Cyfathrebu a’r cyfryngau digidol
  • Gweinyddiaeth a threfnu

I gael gafael ar fwy o wybodaeth, e-bostiwch enquiries@hubcymruafrica.org.uk gyda 'Gwirfoddoli’ yn y llinell bwnc, ac fe gysylltwn â chi i’ch helpu i ddod o hyd i'r cyfle perffaith.

COVID19 yn Affricai’r de o’r Sahara: Yr hyn sydd angen i chi fod yn ei wybod

COVID Bilingual (1).png

Mae'r sefyllfa o ran COVID19 yn newid yn ddyddiol, ac mae adroddiadau gwrthgyferbyniol ar ba gamau y dylid eu cymryd i osgoi’r feirws. Beth sydd angen i fudiadau datblygu ei ystyried wrth gynllunio gweithgareddau partneriaeth dros yr ychydig fisoedd nesaf?

Dyma Dr Kathrin Thomas, sy’n Feddyg Teulu, yn Feddyg Iechyd y Cyhoedd a Chadeirydd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru dros Affrica yn ateb rhai o'ch cwestiynau mwyaf dybryd am y sefyllfa.

A fydd yn cyrraedd rhai o wledydd Affrica?

Bydd, yn sicr. Mae 3 achos yn Nigeria a Senegal hyd yma. Mae swyddfa AFRO Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi dweud bod “.. systemau iechyd bregus a chysylltiadau rhwng China a chyfandir Affrica yn golygu bod y bygythiad a achosir gan y feirws newydd hwn yn sylweddol”. Nid oes gan y rhan fwyaf o wledydd y gallu i gynnal profion ar bobl sydd mewn perygl, felly mae'n ddigon posibl bod y feirws eisoes wedi cyrraedd rhai gwledydd, ond heb ei gadarnhau.

Pa mor hir fydd hyn yn para?

Dyma'r don fawr gyntaf, sy'n ymledu yn fyd-eang, ac mae'n ymddangos y bydd yn para am 2-3 mis ym mhob ardal epidemig lle mae'r feirws ar ei waethaf. Felly, mae'n dibynnu pryd mae'n dechrau lledaenu yn eang yn y gymuned a pha mor effeithiol yw'r gymuned honno wrth arafu'r ymlediad drwy fesurau iechyd cyhoeddus. 

Pa effaith y gallai ei chael yn Affrica?

Mae yna rai ffactorau lliniarol: mae llawer o bobl yn dal i fyw mewn ardaloedd gwledig anghysbell lle bydd y lledaeniad yn arafach. Mae llai o deithio torfol rhwng gwledydd ac efallai y bydd yn haws ynysu achosion o’r feirws. Mae rhywfaint o dystiolaeth efallai na fydd y feirws yn lledaenu cystal mewn gwledydd poeth. Fodd bynnag, bydd cyfyngu ac arafu’r lledaeniad drwy fesurau iechyd cyhoeddus yn heriol iawn gyda llawer llai o weithwyr iechyd, ac yn enwedig mewn ardaloedd lle mae diffyg hyder yn y llywodraeth a’r awdurdodau. Mae cael gafael ar ddŵr a sebon yn her mewn rhai ardaloedd, hyd yn oed mewn ysbytai. Bydd cymorth gan y gymuned ryngwladol yn gyfyngedig iawn, oherwydd bydd y cymorth hwnnw’n canolbwyntio yn y gwledydd cyfoethocach. Nid oes gan y mwyafrif o wledydd Affrica’r gallu i drin niferoedd mawr sydd angen gofal critigol nac i amddiffyn pob gweithiwr iechyd gydag offer amddiffynnol personol.

A ddylem ni ganslo neu ohirio teithiau?

Gellir dadlau bod hwn bellach yn bandemig, er nad yw hynny wedi cael ei ddynodi’n swyddogol gan WHO hyd yma. Unwaith y gwneir y cyhoeddiad hwnnw, gall awdurdodau ddefnyddio mwy o bwerau i reoli’r haint. Gallai hyn effeithio ar y cyngor a gynigir ar gyfer pob teithio rhyngwladol. Fodd bynnag, nid yw’n debygol y bydd llawer o gyfyngiadau teithio, gan nad ydynt yn effeithiol iawn ac maent yn creu effeithiau economaidd sylweddol. Nid yw sgrinio tymheredd yn effeithiol iawn wrth atal lledaenu’r feirws. Felly, os ydych chi eisoes wedi trefnu taith, gwiriwch â'ch cwmni yswiriant beth sy'n digwydd os byddwch chi'n dewis canslo, gan na fyddwch yn gallu cael ad-daliad os ydych chi ddim ond yn "anfodlon teithio". Os nad ydych chi eisoes wedi trefnu eich taith, ystyriwch ohirio gwneud hynny nes ei bod yn gliriach i ba raddau mae’r epidemig wedi bwrw eich gwlad bartner. Efallai y bydd eich partneriaid yn rhy brysur (e.e. cysylltiadau iechyd) neu byddech chi'n teimlo'n rhy bryderus i fod oddi cartref, neu rydych chi’n wynebu mwy o risg eich hun

Gwiriwch dudalen WHO am gyngor teithio sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, tudalennau teithio’r FCO  cyngor teithio Iechyd Cyhoeddus Lloegr a gwefan Travel Health Pro

Beth allem ni ei wneud yn wahanol?

Dyma'r amser i fod yn greadigol a defnyddio technoleg: cyfathrebu drwy WhatsApp neu debyg, rhoi cynnig ar gynadledda o bell (rhowch gynnig ar www.zoom.us) a dulliau dysgu o bell. Os gwelwch yn dda, rhannwch unrhyw beth rydych chi'n ei ddarganfod sy'n gweithio’n dda, drwy dagio @HubCymruAfrica ar gyfryngau cymdeithasol.

Efallai y gwelwch fod gan eich partneriaid wahanol anghenion a blaenoriaethau yn ystod y cyfnod hwn, ac efallai y bydd angen i chi newid cynlluniau ar gyfer eich gweithgareddau beth bynnag. Efallai y byddwch am ystyried codi arian yn lle teithio, er enghraifft.

O ble allaf i gael gafael ar wybodaeth?

Swyddfa AFRO Sefydliad Iechyd y Byd yma ac ar gyfer diweddariadau ynghylch COVID19 yma

Sefydliad Iechyd y Byd (byd-eang) tudalennau COVID19 yma sy’n cynnwys rhai adnoddau rhagorol

Diweddarwyd 10.03.20

Byddwch yn barod ar gyfer Brexit

16eg Hydref 2019

Gyda Brexit yn agosáu, mae'r Adran er Datblygu Rhyngwladol (DFID) yn cynnal gweminar arbennig ar gyfer asiantaethau cymorth a datblygiad rhyngwladol Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ddiweddaraf ar baratoadau ar gyfer gadael yr UE ac i roi cyfle i sefydliadau ofyn cwestiynau a thrafod unrhyw bryderon.


Cynhelir y sesiwn ddydd Mawrth 22 Hydref o 4-5pm a bydd yn cynnwys amser ar gyfer sesiwn cwestiwn ac ateb gyda chynrychiolwyr DFID.


A fyddech cystal ag ymateb i enquiries@hubcymruafrica.org.uk i gofrestru eich diddordeb yn y weminar erbyn 5pm ddydd Llun 21 Hydref. Yn eich ymateb, dylech gynnwys unrhyw bynciau neu feysydd penodol yr hoffech i'r DFID eu trafod yn y sesiwn hon.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar sut y gall sefydliadau cymorth y DU baratoi ar gyfer BREXIT yma

Mae hyn yn cynnwys sut y gall sefydliadau sy'n cael arian gan yr UE ar hyn o bryd wneud cais am warant ariannu DFID.


Cyn y gweminar, hoffai DFID i chi gwblhau'r arolwg cyflym hwn ar-lein drwy ateb 3 cwestiwn byr

Uwchgynhadledd Datblygu Ryngwladol Cymru

Dydd Iau 2il o Fai 2019

Roedd Uwchgynhadledd Datblygu Ryngwladol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn gyfle i ddathlu ein cysylltiadau gyda'r gymuned Affricanaidd.

Yn ystod Uwchgynhadledd Datblygu Rhyngwladol Cymru ar ddechrau’r mis, siaradodd y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg, Eluned Morgan, â phennaeth newydd Oxfam GB, Dr Dhananjayan Sriskandarajah, am bwysigrwydd datblygu rhyngwladol yng Nghymru.

Daeth Ms Morgan yn Weinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg yn 2018, ac mae hi’n goruchwylio rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru fel rhan o'i phortffolio. Canmolodd y cymunedau o Gymru sy'n gweithio yn Affrica am y ‘gwaith maen nhw'n ei wneud y tu ôl i'r llenni ' meddai: 

"’Dwi eisiau i'r byd wybod bod Cymru'n cymryd cyfrifoldeb byd-eang o ddifrif. ‘Dwi i eisiau i'r byd wybod bod Cymru wastad wedi bod, ac yn parhau i fod, yn genedl sy’n edrych tuag allan, gyda hanes balch o ryngwladoli ac undod gyda chymunedau sy'n profi tlodi ar draws y byd.”

Estynnodd y Gweinidog ddiolch i bobl Cymru hefyd, sydd gyda'i gilydd, wedi codi £1m ar gyfer y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau a’i apêl Seiclon Idai.

Yn ddiweddar, penodwyd Dr Sriskandarajah – sy'n cael ei adnabod fel Danny – yn bennaeth Oxfam GB. Cyn hynny, bu'n arwain CIVICUS, y gynghrair o sefydliadau cymdeithasau sifil yn Johannesburg, ac ef oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol ieuengaf erioed Cymdeithas Frenhinol y Gymanwlad. Meddai:

"Dwi’n parhau i gael fy ysbrydoli gan y gwaith rydym yn ei wneud ym maes datblygu rhyngwladol. Mae'n bwysig bod gennym gymdeithas sifil gryf, fywiog. Rydym angen ymrwymiad cryf i ryngwladoli. Heb gymdeithas ddinesig gryf, annibynnol, ni allwn gael democratiaeth gryf. "

Trefnwyd y digwyddiad gan Hub Cymru Africa a phartneriaid Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru (WOAG), gyda chyllid gan raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru. Daeth ag ymarferwyr, gwirfoddolwyr, academyddion, y gymuned ddiaspora ac ymgyrchwyr at ei gilydd sy'n ymwneud â datblygu rhyngwladol ac sydd â diddordeb ynddo.

Roedd sefydliadau partner a oedd yn cynnwys Tearfund, Cymru Masnach Deg, Oxfam Cymru, Achub y Plant ac United Purpose yn y digwyddiad, a chynhaliwyd cyfres o weithdai i dynnu sylw at faterion pwysig o fewn y sector. Roedd y rhain yn cynnwys olew palmwydd cynaliadwy, trais yn seiliedig ar rywedd ac aflonyddu rhywiol, yswiriant iechyd i bawb, ffermwyr Masnach Deg, ac ymgyrchwyr ifanc.

Meddai Beth Kidd, Pennaeth Partneriaethau Dros Dro Hub Cymru Africa:

"Roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig dros ben, ac roedd yn dangos sut mae'r sector datblygu rhyngwladol o fudd i bobl Cymru; mae'n addysgu pobl am faterion byd-eang ac mae'n creu gweithlu mwy cydnerth, amrywiol a chreadigol. Rydym yn parhau i gefnogi'r gymuned ddiaspora, ac yn awyddus i hyrwyddo lleisiau o hemisffer y De yma yng Nghymru. "

Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad oedd perfformiad gan y grŵp theatr cynhwysol Hijinx, a gafodd y cyfle i gyfarfod â’r Gweinidog, Eluned Morgan hefyd. Yn 2018, aeth y cwmni theatr arobryn â grŵp o actorion a staff anabl i ymweld â Lesotho, i herio canfyddiadau pobl ynghylch anableddau dysgu. Ariannwyd y prosiect Able to Act gan raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, drwy Hub Cymru Africa.

Gallwch weld lluniau o’r digwyddiad yma.

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl â Anabledd y Cenhedloedd Unedig

Dydd Gwener 30ain o Tachwedd 2018

(Actor o Theatr Hijinx yn siarad gyda plant ysgol yn Lesotho)

Ar Dydd Llun y 3ydd o Rhagfyr mi fydd Leanne Wood AC a John Griffiths AC, ynghyd â Rhwydwaith Anabledd yng Nghymru ac Affrica (DWA) yn ymuno a ni yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan sawl sefydliad sy'n gweithio ar faterion anabledd yn Affrica, gan gynnwys Theatr Hijinx sy'n gweithio i herio stereoteipiau anableddau dysgu yn Lesotho; Love Zimbabwe sy'n gweithio gyda rhieni plant anabl yn Zimbabwe, a Shamba Iechyd Meddwl Zanzibar sy'n gweithio gyda gwellhawyr traddodiadol i wella iechyd meddwl pobl yn Zanzibar.

Ar hyn o bryd, mae Theatr Hijinx yn nhrydedd cam eu prosiect yn Lesotho, ar ôl ymweld â nhw yn flaenorol ar gyfer eu cyfnod cyntaf ac yna teithio gydag actorion Cymraeg ar eu hail gam, gan ymweld â ysgolion a chymunedau gyda chynhyrchiad mewn partneriaeth ag ysgol leol i fynd i'r afael â nhw mae'r stereoteipio o amgylch anableddau dysgu a helpu'r rheiny ag anableddau yn tyfu eu dyheadau eu hunain.

Mae Love Zimbabwe, sy'n canolbwyntio eu gwaith yn rhanbarth Chinamhora o Zimbabwe, wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi rhieni plant anabl a'u cefnogi i ddatblygu rhwydwaith yn ogystal â ffynonellau incwm i helpu sicrhau bod y plant yn derbyn gofal yn eu cymuned.

Mae Shamba Iechyd Meddwl Zanzibar, yn edrych ar ffyrdd o gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl lle nad oes unrhyw wasanaethau cymorth proffesiynol trwy hyfforddi healers lleol yn y gymuned.

Meddai Cat Jones, Pennaeth Hub Cymru Africa: "Yn aml mae pobl ag anabledd yn cael eu heithrio ac yn cael eu gwahardd mewn unrhyw gymdeithas, yn anffodus, mae llawer o'r sefydliadau sy'n bartneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw wedi tynnu sylw at y ffaith bod hyn hyd yn oed yn fwy felly felly yn y gwledydd maen nhw'n gweithio yn.

"Mae dathlu Diwrnod Personau ag Anabledd y Cenhedloedd Unedig yn dwyn ynghyd sefydliadau sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud â rhaglenni anabledd ac yn helpu i wella ein dealltwriaeth o'r budd mawr y mae cynhwysedd yn ei chael ar ddatblygiad"

Dywedodd Paul Lindoewood o DWA: "Mae cynnwys a chynnwys pobl anabl o fewn unrhyw raglen ddatblygu yn ffactor allweddol i'w lwyddiant."

I gofrestru AM DDIM i fynychu'r digwyddiad ewch i: https://idpwdwales.eventbrite.co.uk  

Cefnogir Hub Cymru Affrica gan Raglen Cymru i Blaid Affrica yn Llywodraeth Cymru.


Jane Hutt yw noddwr newydd Cysylltiadau Iechyd Cymru Affrica

Dydd Mawrth 16eg Hydref 2018

(Jane Hutt AC yn siarad yn y gynhadledd Iechyd Cymru Affrica)

Ar ddydd Iau y 18fed o Hydref yng Nghynhadledd flynyddol Iechyd Cymru Affrica, cyhoeddir Jane Hutt AC yn ffurfiol fel noddwr newydd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru i Blaid Affrica (WfAHLN).

Mae hi'n eiriolwr i waith Cymru o Blaid Affrica ac wedi treulio rhan o'i phlentyndod yn Uganda a Kenya ac ers hynny mae wedi cynnal cysylltiadau hirdymor gyda'r cyfandir.

Gwneir llawer o hyn er ei bod hi'n gweithio fel aelod gweithgar o elusen y Fro am Affrica yn Bro Morgannwg, sy'n gweithio i wella gofal iechyd ac Addysg yn ardal Tororo, Uganda.

Dywedodd Kathrin Thomas, Cadeirydd y WfAHLN: "Rydym wrth ein bodd bod Jane Hutt wedi cytuno i ddod yn noddwr. Mae ei hymrwymiad hirsefydlog i gysylltiadau iechyd rhyngwladol a'i phrofiad helaeth yn hwb mawr i'n helusen.

"Rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu dod â chyfraniadau a chymorth gwerthfawr i'n gwaith i wella gofal iechyd yn fyd-eang."

Bydd Cynhadledd Iechyd Cymru Affrica eleni yn dod ag academyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw at ei gilydd i edrych ar thema Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Os hoffech chi fynychu'r digwyddiad (AM DDIM) ewch i: https://waleshealthconference.eventbrite.co.uk 

Mae Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica yn rhan o bartneriaeth Hub Cymru Africa a ariennir gan Lywodraeth Cymru.


Elusen Pen-y-bont ar Ogwr yn ail-adeiladu ysgolion a chefnogi cymunedau yn Zambia gwledig

Dydd Llun 1af Hydref 2018

(Plant ysgol yn Monze yn helpu creu y gerddi ysgol)

Mae Friends of Monze, elusen o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi ei gysylltu ag ardal Monze yn ne Zambia, wedi ail-adeiladu pedwerydd ysgol ac wedi dechrau adeiladu pumed ysgol yno.

Mae rheolwr yr elusen, Daena Owen yn gyn Ymwelydd Iechyd a Nyrs Ysgol o ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi dechrau gwneud y gwaith yma ar ol i'r gymuned leol a'r Adran Addysg yn cysylltu â hi.Ac mae hi wedi bod yn edrych ar ffyrdd y gallai'r gymuned gydweithio â efo'r elusen i ail-adeiladu'r ysgolion.

Dywedodd Deana: "Roedd wir angen ail-adeiladu'r pum ysgol gan ei bod mewn stad difrifol. Drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliad o'r enw Sefydliad Menywod a Merched Zambia a chyda'r Adran Addysg leol, fe wnaethom ni ddod â'r gymuned at ei gilydd i helpu i ailadeiladu eu hysgolion eu hunain, ond hynny oedd y dechrau."

Yn ogystal ag ailadeiladu yr ysgolion mae Friends of Monze a'i phartneriaid wedi bod yn gweithio i ddatblygu gerddi bwyd cynaliadwy yn yr ysgolion i sicrhau bod y plant yn cael eu bwydo'n iawn. Mae'r disgyblion yn gweithio yn y gerddi paramaethu, felly maent yn gallu dysgu sgiliau tyfu bwyd.

Mae Friends of Monze hefyd wedi ymuno ag elusen Giakonda Solar Schools o Cwmbrân ag yn ystod yr haf diwethaf mi wnaethon nhw gosod cyfrifiaduron sydd wedi ei bweru gan ynni solar mewn dwy ysgol ac maent yn darparu gliniaduron, taflunydd a chyfrifiaduron Raspberry Pi.

Mae Deana yn esbonio: "Mae cyfrifiaduron Raspberry Pi yn gweithredu fel mannau darparu Wi-Fi ac yn cael eu llwytho â gwybodaeth addysgol, Wikipedia, gwyddoniaeth, iechyd, gwybodaeth amaethyddol ac y mae'r ysgolion yn medru ei ddefnyddio lle nad oes mynediad i'r rhyngrwyd. Mae'r paneli solar hefyd yn pweru goleuadau LED, felly mae'r ysgolion hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer dosbarthiadau noson llythrennedd oedolion."

Dywedodd athro lleol: "Rwy'n syfrdanu bod plant mewn ysgolion gwledig heb hyd yn oed ffyrdd priodol yn gallu cael mynediad i chyfrifiaduron, nawr gall y gymuned gyfan ddysgu oddi wrth gyfrifiaduron."

Mae'r elusen hefyd yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy'n seiliedig yn Monze i hyrwyddo rheoli hylendid menywod, ymwybyddiaeth o ganser ceg y groth a hawliau menywod. Mae hyn wedi'i anelu at sicrhau bod merched yn gallu mynychu'r ysgol a bod menywod gallu gwella ei statws yn y gymdeithas.

Cefnogwyd gwaith Friends of Monze gan Hub Cymru Africa a ariennir gan raglen Cymru o blaid Affrica Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cat Jones, Pennaeth Hub Cymru Africa: "Mae gwaith Friends of Monze yn golygu bod y plant yn yr ardal hon yn dal i allu cael addysg, bwyd a hyd yn oed defynyddio technoleg diweddar - sy'n hanfodol mewn gwlad gydag un o'r poblogaethau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd *."

Mae Friends of Monze yn awr yn codi arian ar gyfer llyfrau i'r ysgolion. Cynhaliodd Crynwyr Pen-y-bont ar Ogwr eu Parti Gardd flynyddol ar 1 Medi a rhoddodd arian hael i brynu llyfrau. Cawsant stondin yng Ngŵyl Roots Street ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 15 Medi. Gwerthiant crefftau a wnaed yn Zambia a chrefftau a wnaed gan bobl yng Nghymru, a chodi arian i brynu llyfrau ysgol.


Elusen Canolbarth Cymru yn gwella dylunio amaethyddiaeth yn Uganda

Dydd Llun 20fed Awst 2018

(Hyfforddwyr Uganda yn arwain sesiwn Paramaethu)

Mae Sector 39 wedi dychwelyd yn ddiweddar o gyflwyno cyfres o sesiynau hyfforddi paramaethu i helpu i gefnogi cymunedau i dyfu cnydau newydd a defnyddio eu tir yn gynaliadwy.

Mae 8 allan o 10 o bobl yn Uganda yn byw mewn ardaloedd gwledig ac yn dibynnu ar amaethyddiaeth sy'n dibynnol ar law, sy'n cael ei effeithio'n gynyddol gan newid hinsawdd, felly mae angen dulliau newydd i sicrhau bod digon o fwyd yn cael ei dyfu yn yr amodau heriol hyn.

Dywedodd Steve Jones o Sector 39: "Rydym wedi bod yn gweithio gydag ystod eang o bobl mewn ysgolion a mentrau cymunedol. Mae dau o'r prosiectau sy'n sefyll allan y mae'r hyfforddiant wedi eu helpu, mae un yn helpu merched o gefndiroedd difreintiedig yn Ysgol Uwchradd Busoga, Kamuli a’r llall yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol i brosiect Amddifadiaid Ngora.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda Dolen Ffermio fel y gallwn rannu ein dysgu mewn ysgolion yng Nghanolbarth Cymru."

Mae mudiad o Llanrheadr ym Mochnant yn cyflawni'r gwaith hwn mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Paramaethu, Uganda a Chanolfan PermoAfrica, Kenya i ddarparu hyff